Privacy policy
Mae Angela Evans Jewellery ("Ni") wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd.
Mae'r polisi hwn (ynghyd â'n telerau defnydd ac unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt ynddo) yn nodi'r sail ar gyfer prosesu unrhyw ddata personol a gasglwn gennych chi, neu a ddarperir gennych i ni. Darllenwch y canlynol yn ofalus i ddeall ein barn a'n harferion ynghylch eich data personol a sut y byddwn yn ei drin. Rydym yn cadw gwybodaeth sylfaenol benodol pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd cadw'r wybodaeth honno'n ddiogel a rhoi gwybod i chi beth a wnawn â hi.
At ddibenion Deddf Diogelu Data 1998 (y Ddeddf), y rheolwr data yw Angela Evans o Siop iard, 7B Palace Street, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1RR.
Dim ond i'n safle ni y mae'r polisi hwn yn gymwys. Os byddwch yn gadael ein safle drwy ddolen neu fel arall, byddwch yn ddarostyngedig i bolisi'r darparwr gwefan hwnnw. Nid oes gennym reolaeth dros y polisi hwnnw na thelerau'r wefan a dylech wirio eu polisi cyn parhau i gael mynediad i'r safle.
Pa wybodaeth a gasglwn amdanoch chi?
Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi pan fyddwch yn ymuno â'n rhestr bostio a phan fyddwch yn gosod archeb am gynhyrchion neu wasanaethau. Caiff gwybodaeth am ddefnydd o'r wefan ei chasglu gan ddefnyddio cwcis.
Sut y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth amdanoch chi?
Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi er mwyn prosesu eich archeb ac, os cytunwch, i anfon e-bost atoch am gynhyrchion, gwasanaethau a chyrsiau eraill y credwn a allai fod o ddiddordeb i chi. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth at ddibenion marchnata ag unrhyw un y tu allan i Angela Evans Jewellery.
Marchnata
Hoffem anfon gwybodaeth atoch am gynhyrchion, gwasanaethau a chyrsiau o'n heiddo a allai fod o ddiddordeb i chi. Os ydych wedi cydsynio i dderbyn marchnata, gallwch optio allan ar ddyddiad diweddarach. Mae gennych hawl ar unrhyw adeg i'n hatal rhag cysylltu â chi at ddibenion marchnata. Os nad ydych am gael eich cysylltu mwyach at ddibenion marchnata, gallwch ddad-danysgrifio'n hawdd drwy ddefnyddio'r botwm 'dad-danysgrifio' ar waelod pob un o'n e-byst marchnata.
Mynediad at eich gwybodaeth a chywiro
Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o'r wybodaeth a gedwir gennym amdanoch chi. Os hoffech gopi o rai neu'r cyfan o'ch gwybodaeth bersonol, anfonwch e-bost atom. Efallai y codir tâl bach am y gwasanaeth hwn. Rydym am sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn gywir ac yn gyfredol. Gallwch ofyn i ni gywiro neu dynnu gwybodaeth rydych chi'n credu sy'n anghywir.
Cwcis
Ffeiliau testun yw cwcis a roddir ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a gwybodaeth am ymddygiad ymwelwyr. Defnyddir y wybodaeth hon i olrhain defnydd ymwelwyr o'r wefan ac i lunio adroddiadau ystadegol ar weithgarwch y wefan. Am ragor o wybodaeth ewch i www.allaboutcookies.org. Gallwch osod eich porwr i beidio â derbyn cwcis ac mae'r gwefannau uchod yn dweud wrthych sut i dynnu cwcis o'ch porwr. Fodd bynnag, mewn rhai achosion efallai na fydd rhai nodweddion o'n gwefan yn gweithio o ganlyniad.
Gwefannau Eraill
Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Dim ond i'r wefan hon y mae'r polisi preifatrwydd hwn yn gymwys, felly pan fyddwch yn cysylltu â gwefannau eraill dylech ddarllen eu polisïau preifatrwydd eu hunain.
Newidiadau i'n polisi preifatrwydd
Rydym yn cadw ein polisi preifatrwydd dan adolygiad rheolaidd a byddwn yn gosod unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 14 Mai 2018.
Sut i gysylltu â ni
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein polisi preifatrwydd neu wybodaeth a gedwir gennym amdanoch drwy e-bost.