Workbench with jewellery-making tools and materials in a workshop setting

GEMWAITH GAN ANGELA EVANS

Wedi eu crefftio â llaw yng Nghymru

PRIODAS A DYWEDDIO

Palet lliwgar o gerrig coeth a manylion cain

GEMWAITH PWRPASOL

Trowch eich gemwaith sentimental yn ddarnau modern ac unigryw.

UNIGRYW

Casgliad egsliwsif o emwaith unigryw

FI A FY NGWAITH

Helo, Angela ydw i ac rwy'n gweithio gyda thechnegau traddodiadol o wneud gemwaith, gan ddefnyddio gwifren fel fy mhrif ddeunydd. Rwy'n ei forthwylio, ei weadu, ac yn ei ail-greu trwy dorri a sodro manwl gywir. Rwyf wrth fy modd yn gwella pob darn gyda phalet lliwgar o gerrig coeth, gronynniadau, ac arwynebau
gweadog. Y canlyniad yw gemwaith sy'n fywiog ac yn gymhleth - yn feiddgar o ran
estheteg gyffredinol, ond eto'n dal yn gain a phrydferth.

Mwy amdanaf
"
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Angela am ailgynllunio modrwyau dyweddïo a phriodas fy mam a fy nain a chreu modrwy hollol unigryw sy'n golygu'r byd i mi. Rhoddwyd cymaint o fanylder gofalus i'm dymuniadau wrth ddarparu gwasanaeth personol a phroffesiynol iawn ar yr un pryd.
— Mari Jones
"
Hoffwn ddweud pa mor gyffrous ydw i gyda phâr o glustdlysau a ddyluniodd Angela i mi allan o hen fodrwy ddyweddïo. Roedd hi'n amyneddgar tra roeddwn i'n penderfynu a gwnaeth awgrymiadau gwych o'r hyn oedd yn bosibl gyda'r deunyddiau crai.
— Ann Dunlop
"
Roedd yn amlwg o'r cychwyn cyntaf, fel cleient, fod gofal, ystyriaeth a sylw wedi'i roi i'r briff a'r gofynion. Roedd pob cam o gynllunio a gweithredu'r gwaith yn fanwl iawn ac roedd y sylw i fanylion yn eithaf syfrdanol, ystyriwyd popeth gyda gofal a sensitifrwydd.
— Iwan Gwyn Parry M.A R.C.A

Get in Touch

Cynnyrch o Safon

100% o fetelau wedi'u hailgylchu a cherrig gemau o ffynonellau cyfrifol

Cludiant Am Ddim

Cludiant am ddim o fewn y DU ar archebion dros £100

Dychwelyd a Chyfnewid

System dychwelyd neu gyfnewid eitem o fewn 30 diwrnod.

Taliadau Diogel

Rydym yn sicrhau taliad diogel gyda PEV

Dibynadwy ac Achrededig