Cymraeg
Adra
Comisynnau
Casgliadau
Arddangosfeydd
Lle i brynnu
Cyrsiau
Cysylltwch
Hide & Seek
"medda deryn bach"
Mae pob casgliad wedi'w ysbrydoli gan un cof arbennig.
Rydw i'n cyfuno'r cofion yma gyda technegau gemwaith traddodiadol a chyfoes i greu casgliadau o emwaith sy'n ail-ddal eiliadau yn fy mywyd.
Rydw i'n derbyn comisynnau i pob math a maint o waith.
Cysylltwch gyda fi os hoffwch drafod commisynnu darn arbennig.
I'r casgliad yma rydw i wedi cyfuno technegau gemwaith a thecstiliau i greu gemwaih wedi'w ysbrydoli gan amser gyda fy hen nain yn crosio dillad doli a chwarae 'gwisgo fynu' gyda'i dillad crand o'r 1930au.
Rydw i'n arddangos fy nghasgliadau ogwmpas Prydain ond mae gen i hefyd amryw o ddarnau sy'n archwilio fy nghysyniadau'n fwy eang sydd i'w arddangos yn unig. Bydd fy'n arddangosfa unigol cyntaf yn 2012 yn Oriel Ynys Mon, Llangefni.
AR DDOD; MADE 2011, Yorkshire Sculpture Park, Wakefield.
AR DDOD: Gwyl Dylunio Gaerdydd, Crefft yn y bae, Bae Gaerdydd, Caerdydd
Medi 2011: 'Threadbare' RBSA Gallery, Birmingham
Medi 2010: Arddangosfa Helfa Gelf, Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, Gwynedd.
Medi 2010: Arddangosfa Helfa Gelf, Theatr Harlech, Gwynedd.
Gorffenaf 2010: Arddangosfa Helfa Gelf, Yr Academi Frenhinol Gymreig, Conwy.
Gorffenaf 2009: Gemwaith Gorau Cymru, Ffordd Clynnog, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5DY
Mehefin 2009: Arddangosfa Haf, Forwm crefft Cymru, Machynlleth.
Rhagfyr 2008: Dolig Disglair, Oriel Parc Glynllifon, Ffordd Clynnog, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5DY
Hydref 2004: Wandelroute 2004. Galerie Lous Martin, Kromstraat 3, 2611 EP, Delft, Holland.
Gorffenaf 2004: New Designers 2004. The Business Design Centre, Islington, London.
Byddwch yn gallu prynnu fy ngemwaith arlein yn fuan.
Os oes gennych diddordeb gwerthu fy ngemwaith neu os hoffwch fy nghomisiynnu cysylltwch gyda fi.
Gwelwch fy nhudalen arddangosfeydd, efallai fy mod i'n arddangos mewn oriel yn yml chi'n fuan.
Uned 3 a 3a
Oriel Parc Glynllifon
Ffordd Clynnog
Caernarfon
Gwynedd
LL54 5DY
Ffôn:01286 830222
www.gwynedd.gov.uk/parcglynllifon
CLICIWCH I BRYNNU ARLEIN O
notonthehighstreet.com
Beaumaris Jewellery Studio
15 Church Street
Beaumaris
Anglesey
LL58 8AB
Ffôn:01248 812063
www.beaumarisjewellery.com
Stiwdio a Gweithdy
Uned 3 & 3a
Parc Glynllifon
Ffôn: 01286 830839
Rydw i'n ddarlithydd mewn dylunio 3D a genwaith yng Ngholeg Menai, Bangor a Coleg Meirion-Dwyfor, Dolgellau, ond rydw i hefyd yn cynnal gweithdai i pob lefel yn fy ngweithdy ym Mharc Glynllifon.
Mae'r cyrsiau o fy ngweithdy yn cael eu rhedeg fel rhan o gwrp yr artistiaid preswyl y parc o'r enw 'iard'
Gwelwch safle we iard am rhestr llawn o ddyddiadau a gwybodaeth am archebu lle.
Mae arian a pheli copr yn ail-ddal gem o fy mhlentyndod sef cuddiad ymysg y rhedyn ar ochr mynydd yng Ngogledd Cymru. Roedd siap nodedig y rhedyn a'r hadau rhydlyd ar gefn y dail yn fy hudo.